Darren Thomas ar y dde
Mae un o streicars gorau tîm pêl-droed Caernarfon, a ddaeth i’r amlwg ar ôl sgorio gôl unigol wych ar S4C y llynedd, wedi arwyddo gyda chlwb Aberystwyth FC.

Roedd Darren Thomas  yn cael ei ystyried yn chwaraewyr gorau Cynghrair Cymru ar gyfer y tymor aeth heibio, ar ôl iddo sgorio 31 o goliau.

Fe gychwynnodd ei yrfa bêl-droed gyda Llangefni cyn mynd i chwarae i Borthmadog a Chaernarfon.

Bydd gwylwyr Sgorio yn ei gofio am y gôl a sgoriodd ar ol driblo o’r llinell hanner ffordd yn ystod gêm gwpan rhwng Caernarfon a’r Seintiau Newydd yn yr Ofal fis Rhagfyr y llynedd. Mae dros 100,000 o bobol wedi gwylio’r gôl, lle disgynnodd wal ar yr Ofal wrth i’r ffans ddathlu, ar wefan youtube.

Dywedodd rheolwr Aberystwyth Ian Hughes: “Dw i wrth fy modd ein bod wedi’i arwyddo gan y bydd yn rhoi hyblygrwydd a dewisiadau gwahanol i ni’r tymor nesa.

“Fo sydd wedi chwarae orau yng Nghynghrair Cymru dros y tri thymor diwethaf ac mae’n wych ei gael yn y tîm.”