Mae ffermwyr yn fwy poblogaidd nac erioed ymysg pobl Cymru a Lloegr, yn ôl arolwg newydd sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.

Dywedodd 68% o bobl yn yr arolwg OnePoll fod ganddyn nhw farn ‘ffafriol’ neu ‘ffafriol iawn’ o ffermwyr, cynnydd o’r 60% a ddywedodd hynny yn 2012.

Roedd 90% o bobl hefyd o’r farn bod amaeth yn bwysig i economi Prydain, saith pwynt canran yn uwch na 2012, ac fe ddywedodd 75% eu bod nhw’n credu bod ffermwyr yn cael effaith bositif ar warchod cefn gwlad.

‘Angen cefnogaeth’

Wrth ymateb i ganlyniadau’r arolwg fe ddywedodd Llywydd NFU Cymru Stephen James fod hyn yn brawf o bwysigrwydd cael y llywodraeth i gefnogi ffermwyr a’r diwydiant amaethyddol.

“Mae hyn i gyd yn newyddion da i sector sydd wedi gweld digonedd o heriau yn ddiweddar,” meddai Stephen James.

“Rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar y gefnogaeth gyhoeddus weledol i ffermio a ffermwyr ymysg y cyhoedd ac yn y cyfryngau ac fe hoffwn ni ddiolch iddyn nhw am hynny.

“Ond allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau. Mae’n rhaid i ni barhau i ddefnyddio bob ffordd posib i adrodd ein stori a dadlau’r achos dros y sector fwyd a ffermio. Mae’r arolwg yma’n arwydd clir o gefnogaeth y cyhoedd.

“Nawr – ar adeg pan mae’r prisiau wrth giât y fferm yn isel – mae’n rhaid i arwerthwyr a llywodraeth ar bob lefel barhau i ddangos eu cefnogaeth i’n diwydiant ffermio.”