Yr Old Bailey yn Llundain
Mae dyn ifanc fu’n astudio mewn coleg yng Nghaerdydd yn wynebu carchar am iddo gynllwynio i deithio i Syria i ymladd ar ran mudiad eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn erbyn Syed Choudhury, fe blediodd y dyn 19 oed, sy’n wreiddiol o Bradford, yn euog i’r cyhuddiad o gynllwynio gweithred frawychol.

Cafodd ei arestio yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr y llynedd ac fe glywodd yr Old Bailey ei fod wedi cael ei ddylanwadu gan ddynion hŷn yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd.

Trobwynt

Fe ddaeth ei safbwynt crefyddol eithafol i’r amlwg am y tro cyntaf yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn 2012, clywodd y llys.

Roedd wedi dylunio poster oedd yn dweud ‘Bydd Islam yn Rheoli’r Byd’.

Yn ddiweddarach, fe deithiodd i Fangladesh gydag arian o swydd rhan amser a bu’n chwilio am bynciau ar y we fel ‘10 rheswm i ymuno ag ISIS’, a ‘sut i deithio i Syria’.

Dywedodd Syed Choudhury mai’r unig reswm pam nad oedd wedi teithio i Syria oedd am ei fod yn gobeithio teithio gyda rhywun y gallai ymddiried ynddo.

Dywedodd y barnwr Peter Rook QC y bydd yn cael ei ddedfrydu ar 7 Gorffennaf ac y bydd yn wynebu cyfnod yn y carchar.