Mae nifer y bobol sy’n ddi-waith yn y DU yn parhau i ostwng gyda’r nifer mwyaf erioed mewn gwaith, yn ôl y  ffigurau diweithdra diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw.

Ond yng Nghymru, fe welwyd y cynnydd mwyaf mewn diweithdra o’i gymharu â gweddill gwledydd Prydain.

Fe ddangosodd ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod cynnydd o 3,000 yn nifer y di-waith ers y cofnodion ym mis Chwefror ac Ebrill sy’n golygu bod 6.4% (95,000) o’r boblogaeth bellach yn ddi-waith.

Er hyn, mae 10,000 o bobol yn rhagor mewn gwaith yng Nghymru o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Yng ngweddill Prydain, roedd 1.81 miliwn o bobol yn ddi-waith, sy’n 43,000 yn llai na thri mis cynta’r flwyddyn.

Nid yw’r ffigwr wedi bod mor isel ers mis Awst 2008, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae cyflogau hefyd wedi gweld y cynnydd mwyaf ers pedair blynedd, yn ôl y ffigurau heddiw.

Roedd cyflogau wedi cynyddu 2.7% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol yn y tri mis hyd at fis Ebrill, meddai’r ONS.

‘Perfformio’n dda’

Wedi i’r ffigyrau gael eu cyhoeddi, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae’n dangos bod y farchnad weithiol yng Nghymru yn parhau i berfformio’n dda.

“Dros y chwarter diwetha’, mae’r nifer sydd mewn gwaith yng Nghymru wedi codi ar gyfradd uwch na gweddill Prydain ar y cyfan – ac mae’r cynnydd mewn gweithgaredd economaidd yng Nghymru hefyd yn perfformio’n well na gweddill Prydain.

“Mae’r rhain yn gyraeddiadau go iawn ac yn dangos yn glir bod polisïau Llywodraeth Cymru yn gweithio.”

‘Cymru’n llusgo tu ôl i weddill y DU’

Ond roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn feirniadol o bolisïau Llywodraeth Cymru: “Unwaith eto, mae Cymru yn llusgo y tu ôl i weddill y DU,” meddai llefarydd yr economi Eluned Parrott.

“Mae’n rhaid mynd i’r afael a phroblemau sylfaenol yn ein heconomi. Yma yng Nghymru, does dim rhaglen prentisiaeth fawr ac rydym yn gweld canlyniadau hynny heddiw.”