Swyddfa UMCA yn Neuadd Pantycelyn dan glo
Mae llywydd UMCA, Hanna Medi Merrigan wedi beirniadu Prifysgol Aberystwyth ar ôl iddi gael ei chloi allan o’i swyddfa yn ystod ei hwythnos gyntaf yn ei swydd newydd.

Cafodd rhannau o Neuadd Pantycelyn – gan gynnwys swyddfa UMCA – eu cloi ar ôl i brotestwyr feddiannu coridor oherwydd penderfyniad y brifysgol i gau’r neuadd.

Dros y dyddiau diwethaf mae staff o’r Brifysgol wedi gosod cloeon ar nifer o ddrysau mewnol Pantycelyn, ac yn gwrthod mynediad i’r adeilad.

Bellach, yr unig fodd o gael mynediad i’r adeilad yw trwy ffenestr – i’r ystafelloedd cyffredin sydd wedi’u meddiannu gan ymgyrchwyr.

Ni rybuddiwyd Hanna am y sefyllfa yma, sy’n golygu nad oes ganddi fynediad at offer a ffeiliau sy’n angenrheidiol iddi wneud ei swydd.

Hanna Merrigan ac un o’r ymgyrchwyr, Bethan Ruth Roberts, yn siarad gyda Golwg360 am y meddiannu a’u bygythiad i ymprydio:

‘Agwedd sarhaus’

Dywedodd Hanna Medi Merrigan, Llywydd newydd UMCA: “Sarhaus yw’r unig air i ddisgrifio agwedd y Brifysgol tuag at Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth a chynrychiolaeth myfyrwyr.

“Mae cael gwybod ar fy niwrnod cyntaf yn y swydd bod y Brifysgol yn atal mynediad i’r swyddfa yn hollol annerbyniol. Swyddfa UMCA yw hon, nid swyddfa Prifysgol Aberystwyth, ac mae’n hanfodol bod y Brifysgol yn adfer mynediad iddi”.

Gan gyfeirio at yr ymgyrch ehangach i achub Neuadd Pantycelyn, ychwanegodd Hanna Merrigan: “Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i fyfyrwyr Cymraeg yn wyneb y bygythiad i ddyfodol Neuadd Pantycelyn.

“Rwy’n deall nad oes bwriad gan y myfyrwyr sy’n meddiannu’r adeilad i adael yn fuan, ac rwy’n eu cefnogi 100%.

“Mae’r Brifysgol yma i wasanaethu myfyrwyr ac mae’n bryd iddyn nhw ddechrau gwrando ar lais y myfyrwyr. Os yw’r myfyrwyr am weld y Neuadd yn parhau, dyna ddylai ddigwydd”.

Fe ofynnodd Golwg360 wrth Brifysgol Aberystwyth pam eu bod wedi cloi drysau yn y neuadd, ac oes oedd hynny’n peri unrhyw risg tân i’r rheiny oedd yn parhau i fod yno.

“Mae’r Brifysgol wedi cymryd camau priodol i sicrhau diogelwch yr unigolion sydd yn yr adeilad heb ganiatad, yn ogystal â diogelwch yr adeilad,” meddai’r brifysgol mewn ymateb.