Yr ymgyrchwyr wedi meddiannu rhan o'r adeilad
Mae ymgyrchwyr sy’n galw am achub Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth bellach wedi meddiannu’r neuadd ers mwy na 48 awr ac yn parhau i wrthod gadael y safle.

Er bod y brifysgol wedi cloi pob mynedfa a rhai o’r swyddfeydd y tu mewn i’r adeilad, mae tua 20 fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac ymgyrchwyr iaith wedi medru cael mynediad i un o’r ystafelloedd cyffredin trwy ffenest.

Aros yno tan mae’r brifysgol yn rhoi ymrwymiad i wneud gwaith adnewyddu ar yr adeilad hynafol a chyhoeddi amserlen o’r gwaith hwnnw yw’r nod, yn ôl yr ymgyrchwyr.

“Mae pawb mewn hwyliau da y bore ’ma diolch i gyfraniad hael iawn o bacon rolls ac wyau wedi’u berwi fel brecwast i’r meddianwyr,” meddai tudalen Facebook yr ymgyrch.

Llywydd UMCA Hanna Merrigan ac un o’r ymgyrchwyr Bethan Ruth Roberts yn siarad â Golwg360:

Cefnogaeth

Ers y deuddydd diwetha’, mae’r ymgyrchwyr wedi’u “syfrdanu” hefo’r gefnogaeth maen nhw wedi ei gael:

“Fe ddaeth Rhodri Llwyd Morgan a Rebecca Davies (dau Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth) i siarad hefo ni brynhawn ddoe, i danlinellu nad ydym ni fod yno,” meddai Bethan Ruth oedd yn un o’r bobol fu’n protestio ar do Pantycelyn ddoe.

“Ond ers hynny mae lot o aelodau’r cyhoedd wedi dod draw, a phobol fel Sian Howys a phennaeth Capel yr Annibynwyr, a phobol eraill wedi dod a bwyd i ni.

“Da ni wedi’n syfrdanu hefo faint o sylw mae’r ymgyrch wedi’u ddenu.”

Mae’r ymgyrchwyr eisoes wedi cyhoeddi eu bod am ymprydio fel rhan o’r ymgyrch a bydd hynny’n cychwyn ar 21 Mehefin – 24 awr cyn cyfarfod Cyngor y Brifysgol pan fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud am y neuadd breswyl.