Cyngor Sir y Fflint
Mae protest yn cael ei chynnal tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint heddiw yn erbyn cau ysgolion cynradd yn y sir.
Mae gan Ysgol Llanfynydd 47 o ddisgyblion, ac mae’n un o nifer o ysgolion sydd dan fygythiad o dan gynlluniau moderneiddio ysgolion y Cyngor Sir.
Heddiw, mae rhai o’r disgyblion ynghyd ag athrawon, rhieni a chefnogwyr, yn protestio y tu allan i Neuadd y Sir, yr Wyddgrug wrth i’r cabinet gyfarfod i drafod y cynigion.
Os bydd y cynlluniau yn cael eu cymeradwyo, gallai Ysgol Llanfynydd, ynghyd ag Ysgol Maes Edwin yn y Fflint ac Ysgol Mornant yng Ngwesbyr Picton gael eu cau erbyn Medi 2016.
Deiseb
Mae deiseb i gasglu cefnogaeth dros gadw Ysgol Llanfynydd ar agor wedi derbyn dros 1,000 o lofnodion.
Dywedodd sylfaenydd y ddeiseb, Ruth Hodson, fod yr ysgol fel “teulu” a bod rhieni yn teithio milltiroedd i ddod a’u plant yno oherwydd bod y “gofal, amser, amynedd, ysbryd cymdeithasol a’r cariad mae’r ysgol yn ei ddarparu i’r plant heb ei hail.”
Yn ogystal, bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn yr ysgol heno am 6:30yh i drafod camau nesa’r ymgyrch.
Cyngor Sir
Mae’r cynigion yn rhan o gynlluniau’r cyngor i foderneiddio darpariaeth addysg a mynd i’r afael a llefydd gwag.
Mae Ysgol Llanfynydd gyda 48% o lefydd posib yn wag, mae Ysgol Maes Edwin gyda 13% o lefydd gwag ac mae gan Ysgol Mornant, Gwesbyr Picton, 57% o lefydd gwag.
Dywedodd y cyngor y bydden nhw’n siarad gyda chymuned pob ysgol cyn gwneud penderfyniad ond mae adroddiad i’r cabinet gan Ian Budd, prif swyddog Cyngor sir y Fflint ar gyfer addysg ac ieuenctid, yn argymell eu bod nhw’n cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gau’r ysgolion ac edrych ar opsiynau trefniadaeth ysgolion eraill.