Huw Lewis, y Gweinidog Addysg
Fe fydd Llywodraeth Cymru heddiw’n cyhoeddi canllawiau newydd i helpu ysgolion wella safonau drwy annog cyswllt â theuluoedd a’r gymuned ehangach.

Bydd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, yn lansio canllawiau’r Pecyn Cymorth Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd mewn cynhadledd gan Ganolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg, a fydd yn canolbwyntio ar y thema o ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith teuluoedd yn addysg eu plant.

Mae’r pecyn cymorth o adnoddau a chanllawiau gan Lywodraeth Cymru wedi’u cynllunio fel cymorth ymarferol ar gyfer ysgolion ym mhob cwr o Gymru.

‘Perthynas lawer agosach’

Cred y Llywodraeth y bydd o help i ysgolion sicrhau bod ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned yn ganolog i’w gwaith ehangach.

“Nid yw fy safiad i ar y mater hwn wedi newid ers imi ddechrau fy hunan fel athro a gweld â’m llygaid fy hun yr effaith bwerus y gall ymgysylltu â theuluoedd ei chael,” meddai’r  Gweinidog Addysg.

“Mae’r deunydd newydd yn rhoi cyngor ymarferol a chefnogaeth i ysgolion, waeth sut maen nhw’n datblygu eu sgiliau ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned. Bydd yn eu helpu i ddatblygu perthynas lawer agosach a llawer mwy cynhyrchiol â theuluoedd eu disgyblion a’r gymuned yn ehangach.”

Bydd y canllawiau ar gyfer y Pecyn Cymorth Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd i’w cael ar wefan Dysgu Cymru, Llywodraeth Cymru.