Mark Drakeford
Fe fydd gwybodaeth am sut mae gwasanaethau iechyd a chymdeithasol lleol yn perfformio yn cael ei wneud yn fwy hygyrch i’r cyhoedd, gan fod Llywodraeth Cymru yn ailwampio ei wefan.

Ar ei newydd wedd, bydd y wefan yn cynnig gwybodaeth megis nifer yr oedolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau ac sy’n derbyn taliad uniongyrchol, yn ogystal â mwy o ddata yn ôl swyddogion.

Cafodd ‘Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol’ ei lansio ym mis Medi 2013.

‘Tryloyw’

Mae’r gwaith diwygio hwn yn cyd-daro â chyhoeddi Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru gan Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol wedi helpu i wella pa mor dryloyw y mae’r Gwasanaeth Iechyd.

“Bydd hefyd yn cynnig cyfrwng i arddangos y dulliau a rennir i fesur y canlyniadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn sgil fframweithiau canlyniadau’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol, gan ddangos yn glir sut mae’r gwasanaethau hyn yn perfformio.”

Hefyd ar y wefan newydd fydd:

  • Canran y plant mewn angen sydd wedi derbyn eu holl frechiadau diweddaraf;
  • Gwybodaeth am oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau sy’n ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol;
  • Mynychder yr achosion o droseddau rhywiol;
  • Canlyniadau cyfnod allweddol dau a phedwar ar gyfer plant mewn angen;
  • Canran y plant Dechrau’n Deg sy’n cyrraedd neu’n rhagori ar eu cerrig milltir ddatblygiadol yn dair oed;
  • Canran yr oedolion sydd ag o leiaf un cymhwyster;
  • Cyfradd cyflogaeth oedolion dros 50 oed;
  • Cyfradd cyflogaeth pobl anabl;
  • Canran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).