Huw Lewis
Mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi cyhoeddi y bydd fframwaith newydd ar gael i ysgolion erbyn mis Medi 2016 a fydd yn helpu disgyblion o bob oed i ddatblygu eu sgiliau digidol.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil argymhellion yr adolygiad annibynnol o Dechnoleg Gwybodaeth yng Nghymru, ac adolygiad yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth.

Mae’r ddau adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod cymhwysedd digidol yn allweddol i lwyddiant person ifanc mewn bywyd.

Nawr, fe fydd consortia yn cael ei sefydlu lle gall ysgolion sydd eisoes ar flaen y gad rannu eu harferion gorau, yn ogystal â chydweithio ochr yn ochr â busnesau fel Microsoft.

Hyfforddiant ychwanegol

Yn ogystal â datblygu’r fframwaith newydd, mae cynlluniau ar y gweill i gynnig hyfforddiant ychwanegol i athrawon:

“Mae’n golygu bod angen inni feddwl yn ofalus am sut rydyn ni’n cefnogi ein hathrawon i’w roi ar waith yn y dosbarth,” meddai Huw Lewis.

“Bydd angen datblygu ymarferwyr yn well, drwy ein Bargen Newydd ar gyfer y proffesiwn a gwell Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon, a chydweithio’n agos â phartneriaid fel y Brifysgol Agored.

“Drwy waith partneriaeth, mae gyda ni gyfle gwirioneddol i feithrin cymhwysedd digidol yma yng Nghymru sydd ymhlith y gorau yn y byd, ac fe fydda i’n gofyn i’r ysgolion arloesol hyn weithio ochr yn ochr â busnesau ac arweinwyr addysgol,” meddai Huw Lewis.