Aelodau o Gyfeillion Cerddoriaeth Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno'r ddeiseb
Mae deiseb, gydag enwau  2,000 o bobol arni, sy’n galw am ddiogelu gwasanaethau cerdd i bobol ifanc ledled Cymru wedi cael ei chyflwyno i’r Cynulliad heddiw.

Sefydlwyd y ddeiseb gan Ffrindiau Cerddoriaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a bydd yn cael ei chyflwyno gan gadeirydd y gymdeithas Jeff Ryan am 1:00 y prynhawn ‘ma.

Mae’r cefnogwyr eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn annog parhad addysg gerdd mewn ysgolion a bod y cyllidebau canolog ar gyfer addysg offerynnol a lleisiol yn cael eu gwarchod.

Pe bai’r gwasanaethau yn cael eu torri, byddai cerddoriaeth yn dod yn rhywbeth “elitaidd” sy’n cael ei ystyried yn weithgaredd i rai pobol yn unig yn ôl y gymdeithas.

Toriadau

Sefydlwyd y ddeiseb wedi i sawl cyngor yng Nghymru gyhoeddi bwriad i dorri nôl ar wersi cerdd i filoedd o blant a phobol ifanc yn sgil y toriadau i’w cyllidebau.

“Ers cyhoeddi canfyddiadau’r grŵp adolygu Polisi Cerddoriaeth ym mis Mai 2010, mae anghydraddoldeb ac ansicrwydd darpariaeth wedi bod,” meddai llefarydd o’r gymdeithas.

“O ran gwarchod y cyfle i gael addysg offerynnol ac i ymarfer a pherfformio gydag eraill, mae Cymru bellach ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae neilltuo a gwarchod eisoes yn digwydd.

“Mae neilltuo a gwarchod yn gyfle i sicrhau bod cerddoriaeth yn parhau i fod yn y brif ffrwd, gan barhau â’r system safon broffesiynol sydd ar gael i bawb ac sydd eisoes ar waith, yn hytrach na bod cerddoriaeth yn dod yn beth elitaidd neu ar y cyrion.”