Llys y Goron Merthyr Tudful
Mae dyn busnes o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am 16 o flynyddoedd am orfodi dynes i’w briodi y llynedd.
Dyma’r tro cyntaf i rywun yn y DU gael ei erlyn mewn achos yn ymwneud a phriodas orfodol ers i ddeddfwriaeth newydd gael ei chyflwyno yn 2014.
Yn Llys y Goron Merthyr Tudful y bore ma, plediodd y dyn, 34 oed, yn euog o orfodi’r ddynes 25 oed i’w briodi dan bwysau ym Medi 2014 ac i bedwar cyhuddiad o dreisio, un cyhuddiad o ddwywreiciaeth ac un cyhuddiad o sbecian.
Ni ellir cyhoeddi enw’r dyn am resymau cyfreithiol.
Clywodd y llys fod y dyn wedi treisio’r ddynes Fwslimaidd am fisoedd cyn bygwth datgelu lluniau ohoni’n cael cawod, gafodd eu cymryd gyda chamera cudd, oni bai ei bod yn ei briodi.
Roedd y dyn hefyd wedi bygwth lladd ei rhieni er mwyn ei gorfodi i’w briodi.
Roedd eu priodas yn golygu bod y dyn hefyd yn euog o ddwywreiciaeth am ei fod eisoes yn briod.
Dywedodd y Barnwr Daniel Williams bod y dyn yn “peri risg sylweddol” i ferched a’i fod wedi “cynllwynio’r troseddau dros gyfnod sylweddol o amser.”
Bydd y dyn yn cael ei roi ar y rhestr troseddwyr rhyw am “gyfnod amhenodol.”
‘Carreg filltir’
Ar ddiwedd yr achos, ategodd Heddlu’r De eu hymrwymiad i ddiogelu unigolion sy’n wynebu’r risg o gael eu gorfodi i briodi.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lian Penhale: “Rydym yn croesawu’r ddedfryd heddiw ar ddiwedd profiad trawmatig eithriadol i’r ddioddefwraig ac rydym yn cydnabod y dewrder a’r nerth gymerodd iddi ddod atom i adrodd am y mater wrth yr heddlu.”
Ychwanegodd fod yr achos yn “garreg filltir” yng Nghymru.
Ychwanegodd pennaeth uned trais a throseddau rhyw difrifol Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru, Iwan Jenkins: “Mae gorfodi priodas yn dinistrio bywydau a theuluoedd.
“Gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw’n anfon neges eglur na fyddwn ni’n goddef gorfodi priodasau yn y Brydain sydd ohoni heddiw.”
Dywedodd llefarydd ar ran mudiad Karma Nivarna eu bod nhw’n croesawu’r euogfarn.