Mae nifer y dirwyon gafodd eu rhoi i bobol wnaeth ddim codi baw eu cwn wedi gostwng bron i 20% y llynedd er bod nifer y cwynion yn llawer uwch, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Fe ddywedodd rhai cynghorau yng Nghymru a Lloegr nad oedd ganddyn nhw’r adnoddau i fonitro parciau a llwybrau yn gyson erbyn hyn.

2,868 o ddirwyon gafodd eu rhoi yn 2014-15, sy’n 18.5% yn llai’r na’r 3,521 gafodd eu rhoi yn 2013-14.

Nid oedd traean o’r cynghorau wedi cyflwyno dirwyon o gwbl am y drosedd, er bod 73,824 o gwynion gan y cyhoedd am bobol yn gadael baw cwn.

Roedd hynny’n cymharu â 82,987 o gwynion yn 2013-14 a 77,064 yn 2011-12.

Toriadau

“Mewn cyfnod o doriadau, nid oes gennym ni’r staff i fedru monitro parciau yn disgwyl i drosedd gael ei chyflawni,” meddai llefarydd o Gyngor Sheffield.

Fe wnaeth yr ymchwiliad gan BBC Radio 5 dderbyn gwybodaeth gan 302 o 348 o gynghorau yng Nghymru a Lloegr.

Gall unrhyw un sy’n gadael baw ci ar dir cyhoeddus gael dirwy o £80.