Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud mewn adroddiad diweddar fod “diwylliant o fiwrocratiaeth a bwlio” o fewn y corff.

Bu Peter Higson yn siarad â chyn-bennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru Ann Lloyd, wrth iddi hi gwblhau adroddiad yn sgil pryderon am arweinyddiaeth y bwrdd gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2014.

Erbyn hyn, mae’r mesurau wedi’u dwysau ac mae’r Prif Weithredwr, Trevor Purt wedi cael ei wahardd o’i waith. Fe fydd ei olynydd Simon Dean yn dechrau ar ei waith yn syth.

Dyma’r tro cyntaf i fwrdd iechyd yng Nghymru gael ei roi mewn mesurau arbennig.

Arweinyddiaeth

Yn ei hadroddiad, mae Ann Lloyd yn son am bryderon y cadeirydd Peter Higson ynglŷn ag arweinyddiaeth y corff a’r diffyg gweledigaeth sydd yno:

“Mae’n pryderu am y diffyg creadigrwydd o fewn y bwrdd ac yn credu bod gan y sefydliad ddiwylliant o or-fiwrocratiaeth a bwlio” meddai.

“Mae’n rhwystredig iawn ynglŷn â’r ffaith nad oes gan gynllun tair blynedd y bwrdd unrhyw fwriad clir.”

Cafodd pryder am gyflwr ariannol y bwrdd hefyd ei ddatgan gan Ann Lloyd, ac mae’n dweud bod disgwyl iddo “redeg allan o arian”.

Cyhoeddwyd ddydd Llun bod y Bwrdd Iechyd yn cael ei roi o dan fesurau arbennig yn dilyn methiannau yn y gofal yn ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

“Mae angen gwaith sylweddol i godi safonau’r ward i rai derbyniol,” meddai Ann Lloyd.

Wedi colli pob rheolaeth’

Mae’r AC Aled Roberts wedi galw am newidiadau radical i’r bwrdd iechyd yn dilyn ymchwiliad Ann Lloyd:

“Mae’n ddigalon iawn darllen adroddiad damniol arall i fethiannau’r bwrdd iechyd. Mae’n llunio darlun o fwrdd sydd wedi colli pob rheolaeth,” meddai AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros ogledd Cymru.

“Nid yw hi’n syndod bod lefelau presenoldeb staff mor isel pan ydym ni’n darllen am y diwydiant o fwlio. Ond o ohirio triniaethau i restrau aros hir a phroblemau mawr yn safon y gofal yn yr unedau iechyd meddwl, mae pobol gogledd Cymru wedi cael triniaeth wael iawn.”