Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates
Mae Llywodraeth Cymru’n annog gwahanol ardaloedd yng Nghymru i wneud cais i arddangos casgliad seramig o flodau pabi coch a welwyd y tu allan i Dŵr Llundain y llynedd.

Cafodd miliynau o ymwelwyr eu denu i weld y gwaith celf Blood Swept Lands and Seas of Red a gafodd eu creu i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Gyda lleoliadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cael eu hystyried ar gyfer arddangos y blodau hyn dros y tair blynedd nesaf, gobaith y Dirprwy Weinidog Diwylliant Chwaraeon a Thwristiaeth yw gweld lleoedd o Gymru’n manteisio ar y cyfle.

“Roedd y pabïau yn Nhŵr Llundain yn symbol eiconig ar gyfer nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf,” meddai’r Dirprwy Weinidog, Ken Stakes AC.

“Rydyn ni’n falch iawn o arwain rhaglen goffa Cymru, Cymru’n Cofio 1914-1918, a byddai’r cyfle i arddangos y pabïau yma yn ychwanegiad gwych at yr holl ddigwyddiadau coffa. Byddai hefyd yn denu ymwelwyr.

“Mae gennym leoliadau gwych a fyddai’n gefndir delfrydol ar gyfer y pabïau – rwy’n annog lleoliadau o bob rhan o Gymru i wneud cais.”

Caiff y lleoliadau eu dewis gan ystyried sawl maen prawf, gan gynnwys lle priodol i arddangos y pabïau, y gallu i ganiatáu mynediad am ddim i’w gweld, a pherthnasedd y lleoliad i’r Rhyfel Byd Cyntaf.