Tomos Sparnon o Gastell-nedd yw enillydd y Fedal Gelf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015 – a hynny gyda chyfres o ddarluniau olew o aelodau o’i deulu.

Mae Tomos, 17, yn astudio Celf, Dylunio a Thechnoleg a’r Cyfryngau yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ac mae wedi’i dderbyn i astudio Celf a Dylunio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin ym mis Medi. Mae’n gyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Castell-nedd.

Mae Tomos yn mwynhau celf o bob math, yn enwedig portreadau, ac olew yw ei hoff gyfrwng.

Mae gwaith buddugol Tomos ar gyfer y Fedal yn ymdrin â dau bwnc. ‘Teulu’ yw’r cyntaf ac mae Tomos wedi creu portread olew ar ddarn mawr o bren yn dangos tair cenhedlaeth o’i deulu, ei dad-cu, ei ddau ewythr a Tomos ei hun pan yn blentyn bach.

Cyfres o 10 paentiad olew ar hen ddesgiau ysgol yw’r ail ddarn o waith, a wnaed mewn ymateb i fomio ysgol yn Gaza, Palesteina. Mae’n portreadu’r dioddefwyr, y rhai a gollodd anwyliaid a’r rheiny a oroesodd, yn eu poen. Doedd Tomos heb weithio ar gyfres mor fawr â hyn o’r blaen, ac yn enwedig ar bwnc mor ddwys.

“Mae ennill y Fedal Gelf yn anrhydedd fawr. Mae gwybod bod pobol sy’n arbenigo ym myd celf yn meddwl bod fy ngwaith yn dda ac yn ei hoffi yn deimlad hyfryd.”