Fe fydd gwasanaeth Cymraeg i Oedolion yn cael ei arwain ar lefel genedlaethol gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru heddiw.

Mae’n golygu mai Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fydd yn gyfrifol am strategaeth Cymraeg i Oedolion am y saith mlynedd nesaf.

Roedd penodi un sefydliad i fod yn Endid Cenedlaethol annibynnol ar gyfer Cymraeg i Oedolion yn un o brif argymhellion adroddiad gan Lywodraeth Cymru a oedd yn edrych ar sut y gellid gwella Cymraeg i Oedolion ledled y wlad.

Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud y dylai’r Llywodraeth fod wedi rhoi’r gwasanaeth yng ngofal sefydliad cenedlaethol, fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cyfrifoldebau

Ymysg cyfrifoldebau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fydd:

  • Bod yn gorff gweladwy sy’n pennu’r cyfeiriad strategol cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion
  • Rhoi arweiniad i ddarparwyr Cymraeg i Oedolion
  • Codi safonau ym maes addysgu a dysgu Cymraeg i Oedolion
  • Datblygu cwricwlwm cenedlaethol diddorol a phriodol, o ansawdd uchel, a llunio adnoddau sy’n addas ar gyfer dysgwyr o bob math.

Newidiadau cyffrous’

Daw’r cyhoeddiad wrth i gorff Popeth Cymraeg yn ardal Dinbych a Chonwy feirniadu arweinyddiaeth y Ganolfan Cymraeg i Oedolion yng ngogledd Cymru.

Ond mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi dweud y bydd pwyslais Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ddysgu Cymraeg yn arwain at “newidiadau cyffrous”.

“Mae sicrhau bod oedolion yn cael cyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn un o brif ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Drindod Dewi Sant i symud y sector yn ei blaen,” meddai.

Ychwanegodd Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant: “Mae’r llwyddiant hwn yn dyst i waith caled ac arbenigedd staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – yn enwedig y rhai sydd wedi arwain y cais ar ran Canolfan Peniarth.

‘Siom’

Er hyn, mae Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith – sydd wedi bod yn ganolog yn nhrafodaethau diweddar Cymraeg i Oedolion a Popeth Cymraeg – wedi dweud ei fod yn “siom fod Llywodraeth Cymru’n dilyn Lloegr o ran marchnad addysg.”

Dywedodd: “Mae’r penderfyniad yn destun siom. Cytunon ni â chasgliadau adolygiad y maes mai sefydliad cenedlaethol y dylai fod yn arwain â’r gwaith pwysig hwn. Gallai’r llywodraeth fod wedi dangos ei ewyllys da trwy roi’r cytundeb am ddatblygu Cymraeg i Oedolion i’r Coleg Cymraeg. Mae’n anffodus buodd ymdrech i ddynwared San Steffan trwy ofyn i sefydliadau gystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill y cytundeb mewn marchnadle.

“Un o lwyddiannau’r llywodraeth ddiwethaf oedd sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ond, wedi 5 mlynedd, ni all sefyll yn ei unfan. Mae’n amser i’r Coleg gymryd naid fawr ymlaen neu wynebu bygythiad i’w ddyfodol.

“Os bydd y Coleg yn aros fel un chwaraewr bach yn unig yn y farchnad gystadleuol addysg uwch a sefydlwyd gan San Steffan, wedyn bydd mewn sefyllfa o wendid a bydd yn demtasiwn i lywodraeth gwtogi ar ei gyllideb. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw’n hytrach am ddatblygu’r Coleg yn bwerdy addysg uwch Gymraeg.”