Mae UKIP wedi cadarnhau wrth golwg360 bod fersiwn Gymraeg eu maniffesto Cymreig dal yn y broses o gael ei gyfieithu.

Cafodd maniffesto UKIP ar gyfer Cymru ei lansio ym Merthyr Tudful yr wythnos ddiwethaf, ond dim ond fersiwn Saesneg sydd ar gael ar hyn o bryd.

Ond does dal ddim fersiwn Cymraeg ar wefan ukipwales.org, er bod y blaid wedi cynhyrchu crynodeb un tudalen ac yn dweud bod fersiwn llawn ar y ffordd.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu’r oedi, gan ddweud ei fod yn arwydd o “amarch at yr iaith”.

‘Dod o Lundain’

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP yng Nghymru mai dim ond crynodeb Cymraeg o’u maniffesto oedd gan y blaid ar hyn o bryd.

Un tudalen yw’r crynodeb, sydd ddim i’w weld ar wefan y blaid ond mae wedi cael ei rannu â golwg360.

Yn ôl y llefarydd, y rheswm nad oedd y maniffesto llawn ar gael yn y Gymraeg oedd oherwydd mai “dim ond wythnos diwethaf y gwnaethon ni dderbyn y maniffesto yng Nghymru oddi wrth ein tîm polisi yn Llundain”.

Ychwanegodd bod cyfieithydd wrthi’n gweithio ar y fersiwn Gymraeg llawn ar hyn o bryd, ac y byddai’n cael ei lwytho i wefan UKIP cyn gynted ag yr oedd yn barod.

‘Amarch’ i’r Gymraeg

Mewn ymateb fe ddywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Jamie Bevan, bod UKIP yn dangos amarch tuag at yr iaith drwy beidio â sicrhau bod fersiynau ar gael yn y ddwy iaith ar yr un pryd.

“Rydym yn annog pob plaid wleidyddol i fabwysiadu polisïau a fyddai’n llesol i’r Gymraeg, a hefyd, yn eu gweithredoedd nhw eu hunain, i barchu statws swyddogol y Gymraeg,” meddai Jamie Bevan.

“Felly, rydym yn condemnio methiant Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig i gyhoeddi fersiwn Cymraeg o’u maniffesto ar yr un pryd â’r fersiwn Saesneg.

“Mae’n dangos amarch at yr iaith, ac yn groes i’r gefnogaeth gref sydd i’r Gymraeg ymysg pobl Cymru. Mae’r Gymraeg yn iaith i bob un sy’n dewis gwneud Cymru’n gartref iddyn nhw, o ba gefndir bynnag y dônt – dylai pob plaid gyfrannu at gefnogi’r agenda hwnnw.”

Mae gan y prif bleidiau eraill yng Nghymru i gyd fersiynau Cymraeg o’u maniffestos Cymreig ar eu gwefannau yn barod.

Mae fersiynau Cymraeg maniffestos Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gael ar dudalennau Cymraeg eu gwefannau, mae gan y Blaid Lafur a’r Blaid Werdd linc i faniffestos y ddwy iaith ar eu tudalen Saesneg, ac mae maniffesto’r Ceidwadwyr yn cynnwys y ddwy iaith ynddi.