Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Mae mudiad iaith wedi galw am ddod a’r Safonau Iaith i rym cyn gynted â phosib gan ddweud mai statws “gwirfoddol” sydd i gynllun iaith Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Dyfodol i’r Iaith ei bod wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, a chael gwybod beth yw statws cynllun iaith yr Ardd Fotaneg ar hyn o bryd.

Yn ôl Dyfodol i’r iaith, mae’n golygu nad yw hi’n statudol ofynnol i’r Ardd Fotaneg ymrwymo i osgoi trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg nes  i Safonau Iaith Llywodraeth Cymru ddod i rym.

Ar hyn o bryd, dyw hi ddim yn debygol y bydd y Safonau Iaith yn  dod i rym am rai misoedd.

Nawdd cyhoeddus

Nawr, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am ddod a’r Safonau Iaith i rym cyn gynted â phosib i sefydliadau sy’n derbyn dros £400,000 o nawdd cyhoeddus.

Yn y cyfamser, mae’r mudiad hefyd yn galw ar i Gomisiynydd y Gymraeg weithredu hyd eithaf ei phwerau i sicrhau ymrwymiad i’r Gymraeg gan sefydliadau o’r math.

Daw’r alwad gan fudiad Dyfodol i’r Iaith yn dilyn cwynion diweddar ynglŷn â darpariaeth ieithyddol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne.

Roedd yr Ardd Fotaneg wedi torri ei chynllun iaith drwy godi arwydd uniaith Saesneg ar ochr yr M4 i ddenu ymwelwyr, ac anfon gohebiaeth Saesneg i gwsmeriaid.

‘Galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i bwyso ar sefydliadau’

Ar y pryd, roedd yr Ardd wedi ymateb trwy ddweud mai at ddiben twristiaeth oedd yr arwyddion Saesneg a galwodd Cymdeithas yr Iaith am atal arian cyhoeddus i’r Ardd Fotaneg tra’i bod yn torri ei chynllun iaith.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Mae’r Ardd Fotaneg yn sefydliad cenedlaethol a enwir ym Mesur y Gymraeg, ac eto, does dim rheidrwydd arnynt wneud dim tu hwnt i’w gwirfodd ar hyn o bryd. Dengys hyn yr angen i fwrw mlaen gyda’r Safonau Iaith.

“Yn y cyfamser, galwn ar i Gomisiynydd y Gymraeg bwyso ar sefydliadau o’r math i gynllunio a darparu gwasanaethau Cymraeg i’w defnyddwyr. Byddai hyn yn unol ag egwyddorion y gyfraith ac yn gymhelliant i sefydliadau ddarparu ar unwaith ar gyfer gofynion y Safonau Iaith.”