Mae dynes 62 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl iddi fod mewn gwrthdrawiad a char tra’n cerdded yn Llys-faen yng Nghaerdydd bore ma.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 9 bore dydd Llun ar ôl i gar Audi Q5 lliw du, a oedd yn teithio i gyfeiriad Parc Millbrook, fod mewn gwrthdrawiad a’r ddynes.
Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Mae Heddlu’r De yn apelio ar unrhyw lygad dystion i’r digwyddiad i’w ffonio ar 101.