Rebecca Evans
Fe fydd grantiau yn cael eu rhoi er mwyn i farchnadoedd yng Nghymru  brynu neu ddiweddaru offer sy’n arddangos gwybodaeth am hanes o’r diciâu, neu TB, mewn anifeiliaid.

Mae’r cyfnod ymgeisio am grant ‘Prynu Doeth’, fydd yn cynnig hyd at £2,500 i brynu byrddau a sgriniau arddangos, yn cychwyn heddiw ac yn rhedeg tan 1 Mehefin.

Yn ôl y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, mae risg wrth brynu gwartheg o du allan i Gymru, am nad yw’r anifeiliaid yn cael eu profi mor aml am y diciâu.

Profion

“Mae cyflwyno unrhyw anifail newydd i fuches yn gallu arwain at risg posibl o gyflwyno clefyd,” meddai.

“Caiff pob buches yng Nghymru eu profi o leiaf unwaith y flwyddyn, ond caiff buchesi mewn rhai rhannau o Brydain eu profi yn llai aml.

“Felly mae’n arbennig o bwysig bod ffermwyr yn cwestiynu hanes TB anifail wrth brynu stoc o’r tu allan i Gymru, ac ni ddylent fynegi diddordeb mewn gwartheg sydd wedi’u profi cyn eu symud.”

Gellir defnyddio’r grant hefyd ar gyfer gweithgareddau megis rhoi cyngor i brynwyr, a digwyddiadau, a fydd yn annog ffermwyr i rannu gwybodaeth am TB, yn ôl y Llywodraeth.