Stephen Richard Jessett
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw gyrrwr beic modur fu farw mewn gwrthdrawiad ar briffordd yr A4059 yn Aberdâr ddydd Gwener

Roedd  Stephen Richard Jessett, yn 29 mlwydd oed ac yn dod o Ferthyr Tudful.

Mewn datganiad dywedodd y teulu: “Roedd Stephen yn byw yn ardal y Pant ym Merthyr Tudful ac mae’n gadael dwy chwaer a  brawd, ynghyd a llawer o ffrindiau, a byddant yn ei golli yn fawr. Bu Stephen yn byw yn yr ardal gydol ei fywyd ac roedd yn adnabyddus yn y gymuned.

“Roedd Stephen yn berson cymdeithasol iawn, yr oedd bob tro yn gwenu ac yn chwerthin, gan ddod yn ffrindiau i bawb yr oedd yn ei gyfarfod.”

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar gylchdro Llwydcoed pan darodd beic modur Yamaha glas a gwyn yn erbyn car Volkswagen polo du.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu 0800 555 111 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 1500133515.