Mae corff dyn yn ei 20au wedi cael ei ddarganfod mewn llyn mewn parc treftadaeth ger Treffynnon, Sir y Fflint.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un sydd heb ei hesbonio a bod ymchwiliad wedi dechrau.
Cafodd y corff ei ddarganfod ym Mharc Greenfield Valley am tua 2:15 y bore ‘ma ac mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.
Mae’r mater wedi cael ei gyfeirio at y crwner lleol.