Llys y Goron Casnewydd
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wyres wedi cyfaddef iddo ddweud celwydd wrth ei deulu ei fod yn dioddef o ganser – ond mae’n mynnu ei fod yn dweud y gwir am ddwy ddamwain a gafodd y ferch fach cyn ei marwolaeth.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Amelia Jones yn 41 diwrnod oed pan fu farw ar ôl cael anaf difrifol i’w phen.
Mae ei thaid, Mark Jones, o Gwmbran, yn gwadu ei llofruddio.
Dywedodd wrth y rheithgor ei fod yn gyfrifol am anafiadau ei wyres ond nad oedd wedi eu hachosi’n fwriadol.
Dywedodd Jones ei fod wedi gollwng Amelia drwy ddamwain ar ôl iddo gwympo ar degan y plentyn tra’n ei gwarchod ar ei ben ei hun ar nos Wener ym mis Tachwedd 2012, a’i fod wedi llewygu wrth iddo ei dal ar y noson ganlynol.
Nid oedd wedi dweud wrth ei ferch am y digwyddiad meddai, am ei fod yn credu
Mae’r erlyniad yn honni bod Jones, 45, wedi ymosod ar ei wyres am ei fod yn casáu tad y ferch fach – a’i fod hefyd yn barod i gymryd camau eithafol “i gelu’r gwirionedd.”
‘Celwydd’
Wrth roi tystiolaeth, fe gyfaddefodd Jones ei fod wedi dweud celwydd wrth ei ferch, Sarah, fod ganddo diwmor ar ei ymennydd, gan gymryd arno fod yn feddyg ar y ffon yn dweud wrthi fod ei thad yn ddifrifol wael.
Dywedodd ei fod eisiau sylw ond nad oedd yn gallu esbonio pam ei fod wedi gwneud hynny.
“Ydw i’n teimlo’n gyfrifol am farwolaeth Amelia? Ydw.
“A wnes i ei llofruddio hi? Naddo. Nes i ddim gwneud unrhyw beth i’w niweidio hi’n fwriadol,” meddai.
Nid oedd wedi dweud wrth ei ferch am y digwyddiad cyntaf pan roedd wedi gollwng Amelia am ei fod yn credu ei bod yn iawn, meddai.
Ond y noson ganlynol, dywedodd Jones ei fod wedi bod yn dal Amelia pan lewygodd yn y gegin. Dywedodd ei fod wedi rhoi’r babi yn yr ystafell fyw ac wedi bod yn gwylio’r teledu pan sylweddolodd ei bod yn “dawel”.
Aeth i banig, meddai, pan sylweddolodd nad oedd hi’n anadlu. Dechreuodd ei hysgwyd, a ffoniodd ei ferch yn gyntaf, yn hytrach na 999.
Pan ofynnwyd iddo pam ei fod wedi gwneud hynny, dywedodd ei fod mewn panig.
Yn dilyn marwolaeth Amelia, roedd archwiliad post mortem wedi darganfod bod ganddi anafiadau eraill hefyd a oedd wedi’u hachosi cyn ei marwolaeth, gan gynnwys anafiadau i’w hasennau a’i choes.
Mae’r achos yn parhau.