Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo mewn perthynas ag ymosodiad difrifol yn Nhredegar fore Gwener.

Cafodd dyn 31 oed ei drywanu yn y digwyddiad yn Stryd Commercial y dref oddeutu 4.20 y bore, ac mae’n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafodd dau ddyn – y naill yn 20 oed a’r llall yn 21 oed – eu cyhuddo o niweidio bwriadol ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae’r dyn 20 oed hefyd wedi’i gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa, ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.