Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw’r dyn fu farw yn dilyn ymosodiad yn Nhonypandy yn y Rhondda nos Wener.

Cafodd Wayne Letherby, 42, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae pedwar o bobol yn dal i gael eu holi gan yr heddlu am yr ymosodiad yn Stryd De Winton y dref.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a oedd yn y cyffiniau yn hwyr neithiwr ac sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.