Mae Heddlu De Cymru’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 42 oed o ardal Tonypandy yn y Rhondda.

Yn dilyn ymosodiad difrifol neithiwr yn Stryd De Winton, Tonypandy, aed â’r dyn i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r pedwar o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac maen nhw’n dal yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a oedd yn y cyffiniau yn hwyr neithiwr a sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi digwyddiad 1500134148, neu gysylltu â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.

Mae Stryd De Winton wedi cau wrth i’r heddlu ymchwilio i’r digwyddiad.