Cyn-brif weinidog yr Alban, Alex Salmond
Mae cyn-brif weinidog yr Alban, Alex Salmond wedi rhybuddio arweinydd Llafur, Ed Miliband, y bydd yn anodd iddo osgoi rhyw fath o gytundeb gyda’r SNP ar ôl yr etholiad.

Wrth geisio ennill etholaeth Gordon i ddychwelyd i San Steffan, dywedodd Alex Salmond y byddai’n rhaid i bob plaid ddygymod â “dyfarniad yr etholwyr” ar ôl 7 Mai.

Dywedodd fod Ed Miliband yn “ffôl” i gau’r drws ar y syniad o glymblaid â’r SNP – ac awgrymodd ei fod wedi ymateb fel hyn oherwydd ei fod “o dan bwysau o’r wasg Dorïaidd”.

Os bydd senedd grog, barn Alex Salmond yw mai’r canlyniad mwyaf tebygol fyddai cytundeb yr SNP i gefnogi Llafur ar faterion unigol, un bleidlais ar y tro.

“Nid yw’n amarch na gwarth ar ran unrhyw wleidydd i ddygymod â dyfarniad democrataidd yr etholwyr,” meddai.

“Bydd pob gwleidydd, y rhai ohonom fydd yn ddigon lwcus i gael eu hethol, eu dewis gan y bobl, yn ceisio gwneud eu gorau dros y bobl a’u hetholodd.”

Dilyn rhybudd Sturgeon

Daw ei sylwadau ar ôl i arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, rybuddio Ed Miliband yn y ddadl deledu nos iau na fyddai’n cael dim maddeuant petai’n caniatáu David Cameron yn ôl i Stryd Downing oherwydd ei fod  yn anfodlon taro bargen â’r SNP.

Mae Llafur wedi bod yn mynnu na fydd arni angen pleidleisiau’r SNP i lywodraethu – gan wrthod honiadau’r Torïaid y byddai Ed Miliband yn gorfod ufuddhau i genedlaetholwyr yr Alban petai’n cyrraedd Rhif 10.

Dywedodd Alex Salmond hefyd y byddai ASau’r SNP yn San Steffan yn barod i bleidleisio ar faterion Lloegr yn unig – fel iechyd ac addysg – os ydyn nhw’n effeithio ar yr Alban.

“Mae’r mwyafrif llethol o bleidleisiau’n cael effaith economaidd,” meddai. “Nid yw’n ddeddfwriaeth Lloegr yn unig os yw’n cael effaith economaidd ar yr Alban.”

Awgrymodd y gallai’r SNP ddefnyddio’u pleidleisiau i geisio newid Cyllideb y llywodraeth nesaf.

“Dw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw Aelod Seneddol nac unrhyw blaid wleidyddol na fyddai’n dymuno bod mewn sefyllfa i ddylanwadu er budd eu hetholwyr, ac yn wir, er budd gwleidyddiaeth ledled yr ynysoedd hyn,” meddai.