Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ynghylch ymosodiad “erchyll” gan ddau gi German Shepherd ar 11 o wartheg yn Nhŷ Croes, Ynys Môn.

Bu’n rhaid difa wyth o’r gwartheg yn dilyn y digwyddiad tua 2.30yp ar ddydd Llun, Ebrill 6, gyda’r heddlu yn chwilio am berchennog fan wen.

Wrth ymateb, dywedodd y Sarjant Rob Taylor ar ei gyfrif Twitter ar ran Heddlu Gogledd Cymru:

“Mae  creulondeb yr ymosodiad ar y gwartheg yn warthus, ac fe fydd y ffermwr yn dioddef colled ariannol enfawr. Mae’n rhaid bod rhywun yn gwybod pwy sy’n gyfrifol. Mae’n gwbl echrydus.”

Ychwanegodd: “Er bod achosion llys diweddar yn ymwneud ag ymosodiadau ar anifeiliaid fferm wedi gweld dirwyon mawr yn cael eu rhoi, mae pobl yn parhau i anwybyddu ein negeseuon ynghylch cadw eu cŵn dan reolaeth ger caeau fferm.

“Mae’n orfodol fod perchnogion yn sicrhau fod eu cŵn dan reolaeth. Os ydynt yn dilyn ac ymosod ar anifail, gall y canlyniadau fod yn drychinebus i’r ffermwr, fel sydd wedi digwydd yn yr achos yma.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar y rhif 101, gan nodi’r cyfeirnod S053114.