Fe fydd yr ail ras feiciau flynyddol ‘Brwydr ar y Traeth’ yn cael ei chynnal ym Mharc Gwledig Pen-brê heddiw.

Cymerodd mwy na 300 o feicwyr ran yn y ras gyntaf un y llynedd, ac fe ddaeth cystadleuwyr o bob cwr o Ewrop, gan gynnwys Gwlad Belg a’r Iseldiroedd.

Mae’r ras 12.5km yn addas ar gyfer pob math o feiciau, ac mae’n rhoi her i gystadleuwyr wrth iddyn nhw orfod symud ar hyd trac sy’n cynnwys twyni tywod a thrac coetir.

Stefan Vreugdenhil o’r Iseldiroedd oedd yn fuddugol y llynedd, ac mae e wedi dychwelyd i Gymru eleni i amddiffyn ei deitl.