Mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi galw ar athrawon, disgyblion, rhieni a busnesau i gymryd rhan mewn ‘Sgwrs Fawr’ am y cwricwlwm yng Nghymru.

Fe ddaw hyn yn sgil cyhoeddi Adroddiad Donaldson yr wythnos diwethaf oedd yn cynnwys 68 o argymhellion ar gyfer cwricwlwm newydd i Gymru.

Ar y pryd fe ddisgrifiodd Llywodraeth Cymru’r argymhellion fel rhai “radical”, ond cafodd yr adroddiad ei feirniadu gan y mudiad Rhieni tros Addysg Gymraeg am ddiffyg “gweledigaeth am rôl addysg Cymraeg”.

Prif argymhellion yr adroddiad

  • Cael gwared ar y Cyfnodau Allweddol presennol a chael pump ‘cam cynnydd’ ar gyfer oedrannau 5, 8, 11, 14 ac 16.
  • Sefydlu chwech maes o ran dysgu a phrofiad.
  • Sicrhau tri phwnc sy’n mynd ar draws y cwricwlwm – trin llythrennau, trin rhifau a gallu digidol.
  • Pob disgybl yn gorfod cael gwersi Cymraeg hyd at 16 oed ond galwad hefyd i sicrhau bod plant yn dysgu digon i allu defnyddio’r iaith wedyn.
  • Ysgolion Cymraeg yn ganolfannau ar gyfer dysgu Cymraeg yn gyffredinol, gan gynnig cefnogaeth i ysgolion Saesneg eu hiaith.

Mynegi barn

Wrth lunio’r adroddiad fe gasglodd yr Athro Graham Donaldson dros 700 o ymatebion gan bobol ifanc, ymarferwyr, rhieni a busnesau fel tystiolaeth.

Ond nawr mae Llywodraeth Cymru am i athrawon, rhieni, disgyblion a busnesau edrych ar yr argymhellion yn yr adroddiad ymhellach fel rhan o’u ‘Sgwrs Fawr’.

“Cynigion yr adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yw’r gyfres o gynigion mwyaf cyffrous a chyfareddol ar gyfer addysg yng Nghymru ers cenhedlaeth, ac maen nhw’n haeddu ein sylw,” meddai Huw Lewis.

“Mae newid o’r fath yn gofyn am amser a phwyll, ac rwy’n awyddus i gael gwybod a yw athrawon, rhieni, disgyblion a busnesau yn meddwl bod y weledigaeth a awgrymir a’r dibenion addysg a nodir yn yr adroddiad yn iawn i’n plant a’n pobol ifanc.”

Digwyddiadau

Mae pedwar digwyddiad wedi cael eu trefnu ar gyfer y Sgwrs Fawr hyd yn hyn rhwng 11 a 19 Mawrth ym Mangor, Wrecsam, Abertawe a Choleg y Cymoedd.

Bydd manylion pellach ar sut i gyfrannu at y Sgwrs Fawr ar wefan Llywodraeth Cymru, ac fe fydd rhan gyntaf y Sgwrs Fawr yn cael ei chynnal o 4 Mawrth tan 8 Mai.