Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo argymhellion i symud ymlaen i gynnal ymgynghoriad statudol ynglyn â chynlluniau gwerth £9.27 miliwn i adrefnu addysg yn ardal Y Bala.

Yn y cyfarfod heddiw, penderfynodd yr aelodau i gynnal ymgynghoriad statudol i gau Ysgol Beuno Sant, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol y Berwyn yn Y Bala, a sefydlu Ysgol Gydol Oes ar gyfer disgyblion 3-19 oed ar safle presennol Ysgol y Berwyn.

Penderfynwyd hefyd i gynnal ymgynghoriad statudol i gyfuno rheolaeth tair ysgol wledig dalgylch y Berwyn, sef  Ysgol Bro Tryweryn, Ysgol Ffridd y Llyn ac Ysgol OM Edwards.

‘Ddim yn gynaliadwy’

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

“Mae trafodaethau am adrefnu addysg yn ardal Y Bala wedi eu cynnal ers mwy na phum mlynedd bellach. Mae awydd gwirioneddol yn lleol i symud y gwaith yma yn ei flaen mor fuan â phosib er mwyn sicrhau fod disgyblion yr ardal yn gallu elwa ar y cyfleusterau addysgol gorau bosib.

“Mae’n ffaith nad ydi’r sefyllfa fel y mae yn y Bala ar hyn o bryd yn gynaliadwy i’r dyfodol, gyda niferoedd disgyblion wedi gostwng dros y chwarter canrif ddiwethaf sydd wedi arwain yn ei dro at ddosbarthiadau yn rhai o’r ysgolion i fod yn hanner gwag.

“Nid yw  rhai o’r hen adeiladau ysgolion yn addas i bwrpas ar gyfer addysgu yn yr 21ain ganrif, felly rwy’n awyddus i’n gweld yn symud ymlaen i gyflwyno newidiadau er gwell.”

‘Cryfhau’r ddarpariaeth addysg’

Ychwanegodd Gareth Thomas: “Rydw i’n falch o’r cynlluniau sydd wedi eu datblygu ac yn hyderus eu bod yn cynnig ffordd bositif a blaengar o ddiogelu a chryfhau’r ddarpariaeth addysg yn nalgylch Berwyn. Bydd yn arwain at well rhannu adnoddau ac yn sefydlu safonau cyson ar draws y dalgylch gyda’r nod o sicrhau fod model addysg cynaliadwy ar gyfer y dyfodol yn yr ardal.”

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn ystod mis Mawrth ac Ebrill eleni. Yna, bydd adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet, gyda’r disgwyl y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ym mis Medi.