Llys y Goron Casnewydd
Roedd dynes 21 oed, sydd wedi’i chyhuddo o ladd gŵr a gwraig oedrannus mewn gwrthdrawiad, wedi sgrechian wrth siarad gyda’i thaid ar ei ffôn symudol, clywodd llys heddiw.

Cafodd Denis a Joyce Drew, y ddau’n 86 oed, eu taro gan gar Taylor McDonnell wrth iddyn nhw gerdded ar Ffordd Caerllion, ger Pontir ym mis Tachwedd 2013.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Taylor McDonnell, o Gaerwent yn Sir Fynwy, wedi bod ar ei ffôn am 18 munud yn ystod ei siwrne 20 munud, gan siarad gydag amryw o bobl.

Mae Taylor McDonnell yn gwadu bod ar y ffôn pan ddigwyddodd y ddamwain – gan fynnu ei bod wedi parcio’r car mewn cilfan cyn ffonio ei nain a’i thaid, Janet a Francis McDonnell.

‘Sgrechian’

Wrth roi tystiolaeth yn y llys heddiw dywedodd Francis McDonnell eu bod wedi siarad gyda’u hwyres y noson honno a’u bod wedi bod yn trafod swydd newydd ei thad.

“Roedd hi’n swnio ar ben ei digon. Wedyn, yn y frawddeg nesaf, nes i ei chlywed yn sgrechian ‘Bampi, Bampi’ ac aeth y ffôn i ffwrdd.

“Naethon ni drio ei ffonio hi nol ond roedden ni’n methu cael ateb.”

Mae’r erlyniad yn honni nad oedd Taylor McDonnell yn canolbwyntio wrth iddi yrru ei char ar y pryd ond mae hi’n mynnu bod Joyce Drew wedi cerdded i ganol y ffordd ac nad oedd modd iddi ei hosgoi.

Bu farw Joyce Drew yn Ysbyty Brenhinol Gwent oriau’n unig ar ôl y ddamwain a bu farw Denis Drew chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Mae’r ddynes trin gwallt yn cael ei chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ond yn gwadu’r cyhuddiadau.

Mae’r achos yn parhau.