Mae Cymdeithas yr Iaith yn annog trigolion siroedd Gwynedd a Môn i gyfrannu yn y broses o gasglu barn gyhoeddus am y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae’n  rhaid i bob Awdurdod Cynllunio lleol baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn wedi penderfynu paratoi un ar y cyd.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd Cynghorau Sir Gwynedd a Môn y bydd y Cynllun Datblygu Lleol, neu Gynllun Adnau, yn cael ei ryddhau am ymgynghoriad cyhoeddus am chwe wythnos, gan ddechrau ar Chwefror 17.

Gobaith y ddau gyngor ydi cael barn y cyhoedd am y cynllun, ac yn arbennig eu barn am faint o dai fydd yn cael eu hadeiladu ac ymhle.

Dywedodd Osian Jones, trefnydd y mudiad iaith yn y gogledd fod Cymdeithas yr Iaith yn credu fod y broses o lunio’r Cynllun Datblygu Lleol yn cyrraedd cyfnod allweddol a’i fod yn annog trigolion i gyfrannu at yr ymgynghoriad.

Ychwanegodd fod Cymdeithas yr Iaith yn pryderu  y bydd pob rhan o’r sir yn gweld rhyw fath o  ddatblygu tai, a hynny heb unrhyw ddealltwriaeth o beth yn union fydd effaith ar y Gymraeg fel “iaith gymunedol hyfyw”.

‘Na i 8,000 o dai’

Mae Cymdeithas yr Iaith nawr eisiau anfon neges glir a syml i Gynghorau Gwynedd a Môn yn ystod yr ymgynghoriad gan annog trigolion i ddweud  “Na i 8,000 o dai.”

Meddai Osian Jones: “Fel un sydd wedi edrych ar y ddogfen, mae ein pryderon wedi eu gwireddu. Hynny ydi mai gobaith y ddau gyngor ydi rhyddhau digon o dir er mwyn adeiladu ychydig dros 7,000 o dai, yn wahanol i’r hyn oedd yn cael ei ddweud gan ambell i gynghorydd dylanwadol yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.
“Yn ail, rydym yn poeni ac yn cwestiynu dilysrwydd yr hyn sydd yn cael ei gynnig – o wireddu’r cynllun, bydd  870 o dai yn cael eu hadeiladu ym Mangor, 384 yng Nghaernarfon, 291 yn nhref Pwllheli, 291 ym Mlaenau Ffestiniog, 82 ym Methesda, 621 yn Llangefni.

“O edrych  wedyn ar bentrefi llai, y gobaith ydi adeiladu 69 o dai yn Llanberis, 39 ym
Motwnnog a 39 yn Chwilog.”

Ychwanegodd: “Wrth ddarllen drwy’r cynllun, mi fydd pob rhan o’r sir yn gweld rhyw fath o
ddatblygu tai, a hynny heb unrhyw ddealltwriaeth o beth yn union fydd effaith
hyn oll ar y Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw.”

Amserlen

Dywedodd Menna Machreth – cadeirydd rhanbarth Cymdeithas yr Iaith yng Ngwynedd a Môn: “Rydym yn parhau i ddisgwyl os fydd gan Gynghorau Sir Gwynedd a Môn unrhyw
gynlluniau manwl er mwyn hwyluso’r broses o gael y cynifer mwyaf posib i roi eu
barn ar y cynllun, cwta bythefnos sydd tan gychwyn y cyfnod ymgynghorol, a bydd
yn parhau am 6 wythnos yn unig. Rydym felly yn gofyn i’r ddau gyngor i ddatgan
beth yn union fydd eu hamserlen yn ystod y 6 wythnos.”

Deiseb

Ychwanegodd: “Byddwn ni fel mudiad yn gwneud popeth yn ein gallu i geisio hwyluso’r broses  drwy drefnu digwyddiadau a chyfarfodydd cyhoeddus er mwyn ceisio arfogi
trigolion yn y ddwy sir i gymryd rhan lawn yn y broses.

“Ein cam cyntaf fydd lansio deiseb ar-lein yn ystod y dyddiau nesaf, a byddwn yn
annog pawb sy’n poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i lenwi’r ddeiseb.”