Mae ffilm am brotestwyr hoyw yn ystod Streic y Glowyr yng Nghymru wedi’i henwebu ar gyfer sawl gwobr BAFTA heno.

Cafodd ‘Pride’ ei henwebu ar gyfer y Ffilm Orau, ac mae’n cystadlu yn erbyn Paddington, ’71, The Imitation Game, The Theory of Everything ac Under the Skin.

Mae enwebiadau hefyd i’r awdur Stephen Beresford a’r cynhyrchydd David Livingstone, yn ogystal ag i Imelda Staunton am yr Actores Gefnogol Orau.

Daeth llwyddiant i’r ffilm eisoes, wrth iddi gipio tair gwobr yng Ngwobrau Ffilmiau Annibynnol Prydain, yn ogystal ag enwebiad yn y Golden Globes.

Ymhlith y cast hefyd mae Bill Nighy, Dominic West, Paddy Considine ac Andrew Scott.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain, sy’n cael ei harwain gan Stephen Fry.

Bydd modd gwylio’r seremoni ar BBC1 am 9 o’r gloch.