Lesley Griffiths
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwario £20 miliwn yn ychwanegol ar wella stoc tai Cymru.
Maen nhw’n dweud y bydd hynny’n rhoi “bywyd newydd” i filoedd o dai gwag.
Tai gwag yw un o’r sialensau mwya’ wrth geisio cael rhagor o dai ar rent, meddai’r Gweinidog Taclo Tlodi, Lesley Griffiths.
Dau gynllun
Fe gyhoeddodd Lesley Griffiths, y bydd gwerth £10 miliwn o fenthyciadau di-log yn cael eu cynnig i berchnogion neu landlordiaid sydd am wella eu tai.
Fe allen nhw fod yn gymwys i dderbyn hyd at £25,000 ar gyfer bob adeilad o dan y cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi.
Fe fydd y £10 miliwn arall yn cael ei fuddsoddi yng nghronfa’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi, oedd yn anelu at adnewyddu 5,000 o dai ledled y wlad.
Daw’r cyhoeddiad wedi i Lesley Griffiths ddweud yr wythnos diwethaf y byddai’r cynllun Hawl i Brynu – sy’n rhoi cymorth ariannol i denantiaid brynu eu tai cyngor – yn dod i ben petai’r Llywodraeth Lafur bresennol yn cael ei hail-ethol yn 2016.
Diffyg tai i’w rhentu
“Un o’r problemau mwya’ sy’n wynebu’r sector tai ar hyn o bryd yw’r diffyg tai i’w gwerthu neu eu rhentu,” meddai Lesley Griffiths.
“Mae cartrefi gwag yn wastraff adnodd ac yn denu fandaliaid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd, gan ddifetha golwg y gymdogaeth.
“Bydd y cynllun arloesol hwn yn gwella ansawdd tai ar draws Cymru gan gael gwared ar y peryglon a’r problemau megis oerfel a thamprwydd sy’n gallu amharu ar iechyd pobol.”