Clwb Hermon yn cymryd rhan yn y sialens (Llun fideo o Facebook)
Mae clybiau Ffermwyr Ifanc ar draws Cymru wedi ailgydio yn y sialens ‘neck and nominate’ ar Facebook – ond mewn ffordd wahanol.

Dros y dyddiau diwethaf mae nifer o glybiau wedi cyhoeddi fideos o’u haelodau yn yfed peint o laeth yr un, er mwyn tynnu sylw at argyfwng y diwydiant llaeth.

Mae rhybuddion y gallai miloedd o ffermwyr adael y sector yn y blynyddoedd nesa’ oherwydd cwymp anferth ym mhrisiauy llaeth.

Ar ôl gwneud y gamp eu hunain, mae clybiau wedyn yn enwebu eraill i wneud yr un peth ar dudalen Facebook ‘YFC Dairy Neck and Nominate’.

Maen nhw hefyd wedi bod yn defnyddio hashnodau fel #supportBritishdairyfarmers ar eu negeseuon, yn sgil yr argyfwng diweddar dros brisiau llaeth.

Clybiau ar draws Cymru

Fe ddechreuwyd y sialens gan Glwb Ffermwyr Ifanc y Wig ym Mro Morgannwg, a bellach mae nifer o glybiau a busnesau amaethyddol wedi dilyn.

Ymysg y clybiau o Gymru sydd eisoes wedi cymryd rhan mae clybiau ffermwyr ifanc Hermon, Maendy, Tregaron, Eglwyswrw a Chastell-nedd.

Mae’r grŵp Facebook hefyd wedi rhannu deiseb yn galw ar y llywodraeth i sicrhau pris teg i ffermwyr am eu llaeth – mae honno bellach wedi cyrraedd bron i 12,000 o lofnodion.

Sêl bendith y mudiad

Er mai clybiau unigol sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y sialens hyd yn hyn fe awgrymodd cadeirydd Mudiad y Ffermwyr Ifanc y byddan nhw’n gefnogol i unrhyw ymgyrch oedd yn codi ymwybyddiaeth o’r materion yn y diwydiant llaeth.

Dywedodd Iwan Meirion y byddai’n dda gweld y neges yn cael ei ledaenu y tu hwnt i ddim ond clybiau’r ffermwyr ifanc.

“Mae defnyddio gwefannau cymdeithasol yn ffordd dda o hybu unrhyw beth, ‘da ni’n defnyddio llawer, llawer mwy o Facebook a Twitter fel mudiad ac mae’n ffordd dda o gael y neges allan,” esboniodd Iwan Meirion wrth golwg360.

“Dw i’n licio’r syniad yma o ‘neck nominate’, dydan ni fel mudiad ddim wedi dechrau un ein hun eto ond mae’n rhywbeth i ni drafod.

“Yn ei hun dw i ddim yn siŵr am yr enw ‘neck nominate’, mi wnaethon ni sefyll yn bell i ffwrdd o’r ‘neck nominate’ diwethaf efo’r alcohol.

“Ond ‘da ni’n siŵr o’i gefnogi o mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac mae’n haelodau ni’n ei gefnogi o’n barod.

“Mae angen i bobl wybod beth ydi effaith y toriadau i’r taliadau ar ffermwyr llaeth.”

Gofyn am ‘bris cynaliadwy’

Daw’r ymgyrch yn sgil cwymp yn y pris y mae archfarchnadoedd ym Mhrydain yn ei dalu i ffermwyr am eu llaeth.

Mewn rhai achosion, mae ffermwyr yn dweud eu bod yn derbyn llai am y llaeth nag y mae’n ei gostio i’w gynhyrchu.

Yn sgil hyn mae undeb yr NFU wedi mynnu bod “ffermwyr Prydain, yn syml iawn, am gael pris cynaliadwy ar gyfer y llaeth y maen nhw’n ei werthu wrth glwyd y fferm”.

Yn ôl rhai ymgyrchwyr, dyma’r argyfwng mwya’ i wynebu’r sector ers blynyddoedd.