Dafydd Iwan yw Cadeirydd y fenter iaith yng Ngwynedd
Mae menter iaith yng Ngwynedd yn anelu at gael 5% yn fwy o bobol yn siarad Cymraeg erbyn 2021.
Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 65% o drigolion y sir yn medru’r iaith, sy’n ostyngiad o 4% ar ffigwr 2001 – lawr o 77,846 i 77,000.
Yn ystod y cyfnod hwnnw gwelwyd cynnydd o 5,000 ym mhoblogaeth y sir.
Bydd Hunaniaith, corff sy’n gweithredu fel menter iaith yng Ngwynedd ac yn cael £83,000 gan Lywodraeth Cymru, yn lansio strategaeth i geisio gwrthdroi’r gwymp yn Nant Gwrtheyrn yr wythnos nesaf.
Y nod yw cryfhau’r Gymraeg fel iaith ar yr aelwyd, yn yr ysgol, yn y gymuned ac yn y gweithle ac yn gyffredinol, a cheisio cael pobol i ddefnyddio’r Gymraeg fwy yn eu bywydau beunyddiol.
Yn ogystal, bydd pwyslais arbennig ar weithio gyda grwpiau cymunedol ar lawr gwlad i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
‘Troi’r llanw’
“Nid gwaith hawdd yw cynllunio ieithyddol yn y tymor hir,” meddai Dafydd Iwan, y canwr poblogaidd sy’n Gadeirydd Grŵp Strategol Hunaniaith.
“Credwn, ar sail ymchwil trylwyr a wnaed i’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yng nghymunedau, ysgolion a gweithleoedd Gwynedd dros y blynyddoedd diwethaf y bydd y Strategaeth Iaith newydd hon yn troi’r llanw o blaid y Gymraeg.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Hunaniaith bod y targed yn “heriol” a’r bwriad i gael 5% yn fyw yn siarad Cymraeg yng Ngwynedd erbyn 2021 yn “dasg enfawr”.