Mae’n anochel y bydd Aelodau Seneddol o’r Alban yn cael llai o lais yn San Steffan, ac y bydd hynny yn ei dro yn newid rôl ASau Cymreig o fewn y sefydliad.

Dyna farn Guto Bebb wrth drafod y sgwarnog gododd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wythnos hon.

Mewn araith ddydd Mawrth roedd John Redwood yn dweud y bydd angen atal ASau Albanaidd rhag trafod materion sy’n ymwneud â Lloegr, beth bynnag fydd canlyniad y refferendwm fis nesa’.

Oherwydd bod tair prif blaid Prydain wedi addo ‘devo-max’ i’r Alban, doedd a ddelo, dadl Redwood yw na fydd etholwyr Lloegr yn fodlon i ASau Albanaidd drafod a phleidleisio ar drethiant yn Lloegr, pan na fydd gan ASau Lloegr unrhyw lais mewn trethiant yn Yr Alban.

Ac mae AS Aberconwy yn dweud y bydd cwtogi ar bresenoldeb ASau Albanaidd yn “angenrheidiol” yn dilyn y fôt ar Fedi 18.

“Beth bynnag sy’n digwydd yn y bleidlais ar y deunawfed – ac mae’n edrych yn gynyddol  fel mae ‘Na’ eithaf cyfforddus fydd hi – mae’r addewidion sydd wedi eu gwneud [gan y prif bleidiau] yn awgrymu y bydd y berthynas o fewn Prydain yn newid yn sylfaenol,” meddai Guto Bebb.

“Felly mae’n rhaid gofyn sut mae hynny am effeithio ar fodolaeth deddfu ar gyfer Lloegr, a dw i ddim yn meddwl fod o’n dderbyniol i gael 59 o Aelodau [Seneddol] o’r Alban – sydd yn gwneud pob dim, mwy na heb ag eithrio polisi tramor a pholisi amddiffyn – dw i ddim yn meddwl bod o’n dderbyniol bod ganddyn nhw’r union yr un llais yn San Steffan ag sydd gan Aelod o Loegr.

“Yn yr un un modd mae’r cwestiwn yn codi felly ‘Beth ydy’r setliad i Gymru?’

“Hynnyw yw, rydw i wedi dweud yn gyson, roedd y ddadl pathetic gafwyd o fewn y Blaid Geidwadol yng Nghymru ynghylch [trefn amrywio trethi] lock-step yn hollol ddiangen.

“Mae’r lock-step yn ddibynnol ar yr hyn sy’n digwydd yn Yr Alban.

“Os ydan ni’n mynd i symud trethiant sylweddol i fod yn gyfrifoldeb sylweddol i’r Senedd yn Yr Alban, yna mi fydd rhaid gwneud rhywbeth yng nghyd-destun Cymru.”

Mae Guto Bebb yn croesawu cyfraniad Aelod Seneddol Wokingham, a fu’n Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth Prydain 1993-95.

“Yr hyn mae Redwood yn ei wneud ydy codi syniadau, tydi o ddim yn dweud mai ei atebion o sy’n gywir,” meddai AS Aberconwy.

“Ond yr hyn sy’n gwbl amlwg ydy bod y status quo ddim yn mynd i fod yn opsiwn yng nghyd-destun Yr Alban. Ac os ydy’r status quo yn newid yn Yr Alban, tydi o ddim yn opsiwn ar gyfer gweddill Prydain.”

Llai o ASau Cymreig

Mae’n debygol y gwelwn ni Gymru yn anfon llai o Aelodau Seneddol i San Steffan yn sgîl addewid y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur i ganiatáu ‘devo-max’ i’r Albanwyr.

Ac mae Guto Bebb yn “hollol gyfforddus gyda hynny” – er na fydd pob un o 40 Aelod Seneddol Cymru mor frwd dros ddileu canran o’u swyddi.

“Fe bleidleisiais i i leihau’r nifer o Aelodau Seneddol Cymreig i 30 dan y sefyllfa sydd ohoni.

“Dw i wedi dadlau erioed nad ydy cael gormod o Aelodau Seneddol Cymreig, pro rata, yn broblem tra bo Prydain yn un wlad efo un Senedd. Roedd cael 40 o Gymru yn hollol resymol achos doedd dim modd i’r 40 yna ysgwyd cynffon y ci Prydeinig.

“Ond rŵan bod ganddoch chi Senedd ddeddfwriaethol yng Nghaerdydd, rŵan bod ganddoch chi’r Llys Goruchaf wedi datgan yn gwbl glir bod eisiau dehongli hawliau’r Cynulliad yn eitha’ eang, mae’r cwestiwn yn codi: ‘Pam dylid cael 60 o Aelodau’r Cynulliad ynghyd â 40 o Aelodau Seneddol, sydd yn fwy, pro rata, nag sydd ganddoch chi yn Lloegr?’”

Mwy ar y mater yng nghylchgrawn Golwg.