Gwenda Thomas - hawl i bawb gael gwrandawiad
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod proses newydd yn dod i rym heddiw ar gyfer cwynion a am wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Yn ôl y dirprwy weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, mae’r broses newydd yn symlach ac yn canolbwyntio ar rai sy’n gwneud y cwynion.

Fe fydd yn golygu proses ddwy gam – cyfle i’r cwynwyr drafod y broblem gyda’r awdurdodau a chwilio am ateb felly, cyn symud ymlaen at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae’n golygu y bydd y gwasanaethau’n dilyn y math o drefn sydd wedi ei chytuno ar gyfer holl wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Hyblyg a chyflym

Fe fydd y broses newydd yn cymryd lle’r broses bresennol, sy’n bod ers 2005 a’r tri phrif nod yw gwasanaeth hawdd ei gyrraedd, hyblyg a chyflym.

Mae gweithdai wedi cael eu cyflwyno i helpu gweithwyr cymdeithasol i gynnal y system newydd.

“Bydd y weithdrefn gwyno newydd yn symleiddio ac yn moderneiddio proses gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol,” meddai Gwenda Thomas.

“Mae’n pwysleisio bod gan bawb sy’n cwyno am y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru’r  hawl i gael gwrandawiad ac i gael ateb cyflym ac effeithiol i’w pryderon.”