Mae Cyngor Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd y rhan fwyaf o ysgolion y sir yn cau ar gyfer diwrnod hyfforddiant mewn swydd yn ystod cynhadledd NATO.

Bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei chynnal yng nghwesty’r Celtic Manor ar gyrion y ddinas ar 4 a 5 Medi. Ond mae disgwyl protestiadau a phroblemau traffig yn sgil y gynhadledd – mae hyn wedi arwain at gau’r rhan fwyaf o ysgolion y sir.

Dim ond tair ysgol sydd wedi dweud y byddan nhw’n parhau i fod ar agor yn ystod y gynhadledd ar hyn o bryd. Mae 38 ysgol wedi dweud y byddan nhw’n cau yn gyfan gwbl, bydd chwech wedi cau’n rhannol ac mae deg ysgol sydd heb benderfynu eto.

Bydd rhai o arweinwyr y byd yn cwrdd yng ngwesty’r Celtic Manor ar gyfer y gynhadledd, gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf erioed.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, eisoes wedi dweud ei fod yn benderfynol o wneud y mwyaf o’r cyhoeddusrwydd rhyngwladol fydd yn cael ei roi i Gymru yn ystod cynhadledd y sefydliad.