Alun Davies
Mae llefarydd amgylchedd y Democratiaid Rhyddfrydol, William Powell wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones o “geisio claddu stori” Alun Davies.

Mae dadl wedi cael ei chynnal yn y Senedd heddiw i drafod ymyrraeth y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd ym mhroses gynllunio trac rasio ym Mlaenau Gwent.

Yn ystod y ddadl, dywedodd William Powell y dylai Alun Davies gyhoeddi’r holl ohebiaeth rhwng Cyngor Blaenau Gwent, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Ond dywedodd Carwyn Jones y byddai angen ceisio’r wybodaeth drwy ddull arall.

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams eisoes wedi dweud y dylai Alun Davies fod wedi ymddiswyddo ar ôl torri;r côd ymddygiad gweinidogol.

Bu’n rhaid i’r Gweinidog ymddiheuro i’r Cynulliad am ymyrryd ym mhroses gynllunio’r trac rasio ym Mlaenau Gwent, ond fe fydd yn cael parhau yn ei swydd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones nad oedd Alun Davies yn uniongyrchol gyfrifol am wneud y penderfyniad tros gymeradwyo’r cynlluniau ac ar ôl “ystyried y mater yn fanwl”, fe benderfynodd fod y Côd Gweinidogol wedi cael ei dorri.

Dywedodd: “Ar yr achlysur yma, nid ydw i’n credu fod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd wedi body n ddigon gofalus wrth greu gwahaniaeth clir rhwng ei rôl weinidogol ac etholaethol.”

‘Embaras llwyr’

Wrth leisio’i farn yn ystod y ddadl, dywedodd William Powell: “Does gan y Prif Weinidog, yn amlwg, ddim diddordeb mewn tryloywder ac mae’n ceisio claddu’r stori hon.

“Rwy’n siomedig na chymerodd y Prif Weinidog y cyfle i bwyso ar swyddfa Alun Davies i gyhoeddi’r holl ohebiaeth o ran ei lobïo am Gylchffordd Cymru.

“Sut ar wyneb y ddaear all pobol ymddiried yn y Llywodraeth  hon pan fo’n mynnu bod mor ochelgar? Rwy’n annog y Gweinidog i gyhoeddi’r dogfennau hyn ar frys.”

Ychwanegodd Kirsty Williams: “Y llynedd, cododd y Prif Weinidog bryderon gyda’i Weinidog am y mater hwn.

“Cafodd y pryderon hyn eu hwfftio gan Alun Davies gan ei fod e wedi dweud ei fod e eisoes wedi ceisio barn swyddogol: yr hyn wnaeth e ddim datgelu oedd ei fod e wedi gwrthod y cyngor hwn yn llwyr.

“Mae hyn yn embaras llwyr i’r Prif Weinidog ond mae’n parhau i oedi a gwrthod cymryd camau.”

Ychwanegodd y dylai Alun Davies gael ei ddiswyddo pe na bai’n fodlon ymddiswyddo.