Prifysgol y Drindod Dewi Sant
Fe fydd rheolwraig Tŷ Tê o Batagonia yn derbyn gradd yn y Gymraeg gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant yr wythnos nesaf.

Bu Ana Chiabrando Rees yn dilyn cwrs ar-lein o’i chartref yn Nhrelew yn Nyffryn Chubut, lle mae hi hefyd yn rhedeg Tŷ Tê Cymreig.

Bu’n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia ers 2007, “gan ei bod hi’n bwysig cadw’r iaith yn fyw”, meddai mewn fideo a gafodd ei chreu ar gyfer Gŵyl Werin Smithsonian.

Cafodd y busnes teuluol ei sefydlu ym ‘Mhlas y Coed’ gan ei hen fam-gu 67 o flynyddoedd yn ôl, ac mae hi bellach yn nwylo Ana, sy’n coginio’r cynnyrch gan ddefnyddio’r ryseitiau gwreiddiol.

Cafodd rhai o’r ryseitiau cynharaf eu cofnodi ar bapur cyn i’w hen-famgu symud o Gymru.

Gobaith ei hen-famgu wrth agor y Tŷ Tê oedd y byddai’n fodd o gynnal pobol yn ystod gaeafau llwm, pan fyddai’n anodd dod o hyd i fwyd a diod.

Un o’r ryseitiau cyntaf yn y Tŷ Tê oedd ‘Torta Negra’, ac mae Ana yn dal i’w goginio gan ddefnyddio cyfuniad o gynhwysion gwreiddiol ei hen fam-gu a chynhwysion tymhorol sydd ar gael heddiw ym Mhatagonia.

Dywed Ana bod “y busnes yn dibynnu ar dwristiaid sy’n dod i ddarganfod mwy am fwydydd Cymreig”.

Mae rhai o’r ryseitiau wedi ennill gwobrau ym Mhatagonia.

‘Rhagorol’

Mewn llythyr at bapur newydd y Western Mail fis diwethaf, dywedodd aelod o’i theulu, David Rees o Dregaron, bod ei chyflawniad yn “rhagorol”.

“Mae hwn yn gyflawniad rhagorol i ferch ifanc ddymunol sydd wedi gwneud aberth sylweddol o ran ei hamser, ei hymdrech a chost personol i gyflawni ei nod.

“Mae ei Chymraeg mor dda erbyn hyn fel bod rhaid i fi gymryd gofal pan dw i’n anfon llythyr ati er mwyn sicrhau bod yr holl dreigladau a brawddegau’n hollol gywir.

“Rwy’n hynod falch ohoni ac yn credu y dylai hi gael sylw a chydnabyddiaeth am ei chyflawniadau.

“Dylai hi fod yn esiampl i bobol sy’n ei chael hi’n anodd ysgogi eu hunain i ddysgu Cymraeg.

“Mae ein hiaith yn drysor cenedlaethol amhrisiadwy – ac fe fydd pobol fel Ana yn sicrhau y bydd hi’n goroesi er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael ei charu.”

‘Tipyn o gamp’

Dywedodd Gwen Davies o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant: “Mae Ana yn fyfyrwraig hynod o gydwybodol.

“Mae Cymreictod yn rhan o’i hetifeddiaeth hi, ond mae’n dipyn o gamp iddi wneud gradd fel ail iaith.

“Nid yn unig mae hi’n astudio o bell, ond mae hi hefyd yn llythrennol yn bell iawn i ffwrdd hefyd.”