Pôl piniwn golwg360
Fe ddylai Cyngor Gwynedd allu disgyblu aelodau o’u staff sydd ddim yn cyfarch cwsmeriaid a’r cyhoedd yn y Gymraeg, yn ôl y mwyafrif ym mhôl piniwn golwg360.

Dywedodd 81% eu bod yn credu y dylai gweithwyr  y Cyngor gael eu disgyblu am beidio â defnyddio’r iaith.

Fe gododd y pwnc mewn ymateb i Adroddiad Monitro Cynllun Iaith Cyngor Gwynedd, a oedd wedi nodi y gallai hyn ddigwydd petai staff yn “amharod i ddefnyddio’r iaith Gymraeg”.

Cafodd hyn ei feirniadu gan un o gynghorwyr y sir, Louise Hughes, yn ogystal â denu sylw y tu hwnt i Gymru gan bapur newydd y Sunday Times.

Ond mae’n ymddangos fod y mwyafrif yn arolwg golwg360 yn cefnogi safbwynt Cyngor Gwynedd – yr unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd â pholisi o weithredu drwy’r iaith Gymraeg.

Dywedodd 12% nad oedden nhw o blaid camau disgyblu yn y fath sefyllfa, gyda 7% ddim yn siŵr.

Dadansoddiad Iolo Cheung

Mae’r farn a fynegwyd yn y pôl yma ymhlith darllenwyr golwg360 yn glir iawn o blaid safbwynt adroddiad Cyngor Gwynedd, ac yn erbyn safbwynt y cynghorydd Louise Hughes.

Wrth gwrs, nid gorfodi pob gweithiwr i siarad Cymraeg wrth bawb mae Cyngor Gwynedd eisiau’i wneud, ond yn hytrach eu hannog i gyfathrebu “yn iaith ddewisol y cwsmer”, Cymraeg neu Saesneg.

Y pryder yn yr adroddiad oedd bod rhai staff, yn enwedig mewn canolfannau hamdden, wedi bod yn amharod i siarad Cymraeg hyd yn oed pan oedden nhw’n medru gwneud.

O gofio’r holl wersi nofio a chwaraeon sy’n digwydd yn y canolfannau hynny’n wythnosol, a’r ffaith bod 89% o blant rhwng 3-15 oed yng Ngwynedd yn siarad Cymraeg, mae’n esbonio pryder y cyngor yn y maes hwnnw.

Mae hefyd yn debygol o esbonio rhywfaint o’r gefnogaeth yng nghanlyniadau’r pôl tuag at safbwynt y cyngor.

Roedd amryw o’r sylwadau hefyd yn awgrymu bod angen i Wynedd arwain y ffordd o ran defnydd cyhoeddus y Gymraeg, ac felly bod camau disgyblu fel hyn yn rhan o geisio sicrhau hynny.

Pryder rhai o’r 12% oedd yn gwrthwynebu camau disgyblu oedd y byddai’n arwain at wasanaeth salach, ond yn y Gymraeg – pryder sydd yn amlwg ddim yn cael ei rannu gan y mwyafrif.

Canlyniad

A ddylai gweithwyr gael eu disgyblu am beidio â chyfarch yn Gymraeg?

Dylen – 81.42%

Na ddylen – 11.5%

Ddim yn siŵr – 7.08%

Nifer: 113