Alun Davies
Bydd Alun Davies yn cadw ei swydd fel Gweinidog Adnoddau Naturiol er iddo dorri cod ymddygiad Aelodau’r Cynulliad.

Er y bydd Alun Davies yn ymddiheuro i’r Cynulliad am ymyrryd ym mhroses gynllunio trac rasio ym Mlaenau Gwent, ni fydd yn gorfod rhoi’r gorau i’w swydd oherwydd nad  oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad dros gymeradwyo’r cynlluniau.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi “ystyried y mater yn fanwl” a’i fod yn amlwg bod y Côd Gweinidogol wedi ei dorri.

Ychwanegodd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud yn glir nad oeddent wedi newid eu barn na chael eu dylanwadu o ganlyniad i ymwneud y Gweinidog fel Aelod Cynulliad lleol.

Meddai Carwyn Jones: “Ar yr achlysur yma, nid ydw i’n credu fod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd wedi bod yn ddigon gofalus wrth greu gwahaniaeth clir rhwng ei rôl weinidogol ac etholaethol.

Rwyf wedi trafod y mater gyda’r Gweinidog ac mae wedi ymddiheuro i mi.  Mi fydd yn gwneud datganiad yn bersonol i’r Siambr yn hwyrach heddiw ac ni fyddaf yn gweithredu ymhellach ar yr achlysur yma. “

Daeth y cyhoeddiad gan Carwyn Jones wythnos ar ôl iddo ddweud y byddai’r ymchwiliad yn dod i ben.

Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi galw ar Alun Davies i ymddiswyddo.

Cefndir

Yn ôl adroddiadau, fe ysgrifennodd Alun Davies at swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud ei fod yn “siomedig iawn” gyda’u hagwedd tuag at gynlluniau i adeiladu trac rasio ceir gwerth £280 miliwn ger Glyn Ebwy – sy’n digwydd yn ei etholaeth, Blaenau Gwent.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi pryderon y byddai’r trac yn “cael effaith amgylcheddol annerbyniol” ac roedd gwrthwynebiad lleol  i lefelau sŵn uchel a thraffig yn yr ardal.

Yn y llythyr dywedodd Alun Davies y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd agwedd mwy positif tuag at y cais cynllunio, a’i fod yn “awyddus iawn” i’r cynlluniau gael eu cymeradwyo.

Tair wythnos yn ddiweddarach roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud tro pedol gan benderfynu peidio galw’r cais i mewn.

‘Syrthio ar ei fai’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod swydd Alun Davies fel  Gweinidog Adnoddau Naturiol yn “anghynaladwy.”

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: “Mae’r llanast yma’n dangos nad yw Carwyn Jones yn ddigon dewr i gymryd penderfyniadau anodd neu i bennu’r safonau uchaf mewn swydd gyhoeddus.

“Mae’n ddu a gwyn – mae’r Gweinidog wedi torri’r Cod Gweinidogol. Mae ei sefyllfa yn anghynaladwy.

“Dylai’r Gweinidog Adnoddau Naturiol, ar ôl torri’r Cod Gweinidogol, wneud y peth iawn a syrthio ar ei fai.”

‘Beth yw pwynt y Cod Gweinidogol?’

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru nad oedd modd amddiffyn penderfyniad Carwyn Jones.

Meddai: “Sut allwch chi gyfaddef bod rhywun wedi torri’r rheolau ond yna gwrthod ei gosbi? Mae hyn yn gofyn y cwestiwn –  beth yw pwynt y Cod Gweinidogol?

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn dadlau y dylid cael  ymgynghorydd annibynnol i fod yn gyfrifol am y Cod Gweinidogol.

Dywedodd Peter Black, Aelod Cynulliad dros dde orllewin Cymru, nad oedd aelodau’r Cynulliad yn gwybod beth oedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad na beth oedd bwriad Llywodraeth Cymru yn dilyn yr adroddiad.

Meddai: “Nid oes unrhyw broses swyddogol yn ei le felly mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud fel y mae’n dymuno. Nid yw hynny’n beth da i ddemocratiaeth.

“Gweinidogion Cymru yw’r unig Weinidogion yn y DU sy’n gyfrifol am blismona eu cod ymddygiad eu hunain. Yn San Steffan a Holyrood, maent wedi neilltuo cynghorwyr annibynnol, ond mae’r Prif Weinidog yn gwrthod gwneud yr un peth.”

‘Pam ei fod yn cael cadw ei swydd?’

Dywedodd Simon Thomas o Blaid Cymru: “Fy nehongliad i yw bod y Gweinidog wedi torri’r Cod Gweinidogol ar bedwar achlysur gwahanol.

“Fe wnaeth o fynegi ei farn ei hun wrth geisio dylanwadu ar y penderfyniad cynllunio, ac mae hyn yn amlwg yn erbyn rheolau’r Gweinidogion.

“Mae angen i’r Prif Weinidog ddweud wrthym pam nad yw wedi colli ei swydd neu pham na chaniatawyd iddo ymddiswyddo.”