Raquel Davies fu farw yn y ddamwain car
Mae gyrrwr ifanc wedi cyfaddef iddo achosi marwolaeth ei chwaer a’i dyweddi drwy yrru’n beryglus.

Roedd Corey Davies, 20 oed, wedi bod yn yfed pan aeth a’i chwaer a’i dyweddi allan yn ei gar BMW newydd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Raquel Davies, 23, a’i phartner Lee Jenkins, 25, wedi marw pan wnaeth y car droi drosodd.

Roedd gan y cwpl fab naw wythnos oed, Harvey.

Ni chafodd Corey Davies ei anafu yn y ddamwain.

Clywodd y llys bod gan Davies “ormod o alcohol” yn ei system pan geisiodd fynd heibio bws gan droi’r car ar ei do ar yr A4093 ger Gilfach Goch.

Mae Davies, o Borth yn y Rhondda wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Fe ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd drwy gyswllt fideo o Garchar Caerdydd ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu’n ddiweddarach.