Mae ap Cymraeg arloesol ym maes gofal iechyd wedi ennill gwobr yng Ngwobrau’r Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Cafodd yr ap ei ddatblygu gan Brifysgol Abertawe, ac fe gafodd y sefydliad ei wobrwyo yn ystod Cynhadledd y Gymraeg mewn Gofal Iechyd yng Nghanolfan y Mileniwm.

Cafodd ei enwebu am y wobr gan Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon, ei ariannu trwy grantiau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a’i lansio’r llynedd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Ddinbych.

Mae’r ap yn cynnwys geirfa ac ymadroddion er mwyn i unigolion sy’n gweithio yn y maes allu defnyddio’r Gymraeg gyda chleifion.

Cafodd yr ap ei ddatblygu yn dilyn cyhoeddi llyfr gan y darlithydd Angharad Jones o Goleg Gwyddorau oedd yn annog myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg a chynnig gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd pan fydden nhw’n gweithio yn y maes.

Mae modd lawrlwytho’r ap gan ddefnyddio teclyn Apple ac Android.

‘Technoleg newydd yn gwbl allweddol’

Dywedodd Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Dafydd Trystan: “Hoffwn longyfarch pawb fu ynghlwm â’r gwaith o greu’r ap arloesol yma ym Mhrifysgol Abertawe.

“Mae’r Coleg Cymraeg yn ystyried fod datblygiad y Gymraeg ym maes technoleg newydd yn gwbl allweddol i ffyniant hir dymor yr iaith ac yn falch o gydweithio gyda Phrifysgolion i sicrhau datblygiadau blaengar sy’n cefnogi gwaith myfyrwyr yn ein Prifysgolion a gweithwyr iechyd yn y gweithle.

“Edrychwn ymlaen at weld datblygiadau pellach o’r math hwn ganddynt yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Dr Gwenno Ffrancon: “Rwy’n hynod falch o weld ap arloesol ‘Gofalu trwy’r Gymraeg’ yn ennill Gwobr Technoleg Gwybodaeth a’r Gymraeg yng Ngwobrau Gwireddu’r Geiriau Llywodraeth Cymru – y tro cyntaf i’r wobr gael ei chynnig.

“Mae’n dda gweld ffrwyth gwaith partneru da ac ymateb creadigol ac arloesol i’r her o gefnogi gweithwyr y sector iechyd gyda’u sgiliau iaith Gymraeg yn derbyn cydnabyddiaeth fel hyn.

“Mae’r Academi a’i phartneriaid eisoes wedi dechrau ar gyfres o gynlluniau tebyg pellach ac mae derbyn gwobr fel hon yn ysgogiad pellach i ni arbrofi ac arloesi”.