Llys y Goron Casnewydd
Mae Llys y Goron Casnewydd wedi clywed bod dyn wedi saethu’i wraig yn farw gan nad oedd e’n gallu derbyn bod eu priodas ar ben.

Cafodd Caroline Parry ei saethu yn ei chefn ger ei chartref yn Seabreeze Avenue yng Nghasnewydd fis Awst diwethaf.

Roedd hi wedi symud allan o’u cartref yng Nghwmbrân.

Ar fore cyntaf yr achos, mae Christopher Parry wedi gwadu iddo’i llofruddio, ond yn cyfaddef ei fod e’n gyfrifol am ei lladd.

Cafodd Parry ei ddisgrifio yn y llys fel dyn oedd yn hoffi rheoli ei wraig.

Mae’r achos yn parhau.