Ellen ap Gwynn
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi arwyddo dogfen sy’n dweud bod angen “gwneud mwy” i gynyddu’r gynrychiolaeth o fenywod mewn swyddi cyhoeddus.

Mae’r tri sefydliad eisoes wedi gweithredu rhaglenni i fynd i’r afael â phrinder menywod mewn swyddi cyhoeddus yng Nghymru.

Cafodd y ddogfen ei llofnodi gan Lywydd y Senedd, y Fonesig Rosemary Butler; yr Aelod Cynulliad a Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth Lesley Griffiths a’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gydraddoldeb a heneiddio.

Dim ond tua 27% o gynghorwyr lleol sy’n fenywod, ac yn ôl y cynghorydd Ellen ap Gwynn, mae’n “ddyletswydd fod y gefnogaeth gywir ar gael i annog mwy o fenywod i ymgymryd a’r gwaith.”

Blaenoriaeth

“Fel arweinydd cyngor, rwy’n gwybod bod cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yn gallu bod yn anodd, ond mae’n waith sy’n rhoi boddhad hefyd,” meddai Ellen ap Gwynn.

“Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod y gefnogaeth gywir ar gael i annog mwy o fenywod i ymgeisio am swyddi cyhoeddus a’u bod yn cael cefnogaeth wedi iddynt gael eu hethol neu eu penodi.

“Mae sicrhau bod gwleidyddion ac arweinwyr dinesig yn gynrychiadol o gymunedau cynyddol amrywiol Cymru yn hollbwysig o ran democratiaeth leol, ac mae sicrhau bod cymaint o bobol â phosibl yn ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd yn flaenoriaeth i bob cyngor yng Nghymru.”

Ychwanegodd Y Fonesig Rosemary Butler AC: “Drwy lofnodi’r datganiad hwn ar y cyd heddiw, rydym yn sicrhau bod y mater yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar yr agenda wleidyddol.”

Amrywiaeth o brofiad

Bydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert, hefyd yn arwyddo’r ddogfen. Dywedodd:

“Bydd cynrychiolaeth well yn sicrhau Gweinidogion a’r cyhoedd bod amrywiaeth o brofiad a barn wrth wneud penderfyniadau. Bydd yn sicrhau bod byrddau cyrff cyhoeddus yn ennyn hyder y cyhoedd gan eu bod yn adlewyrchu’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.”