Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ddamwain beic modur angheuol yn Llanelli nos Sadwrn.

Cafodd gyrrwr y beic modur, a oedd yn 32 oed, ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe lle bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd plentyn 7 oed, a oedd yn teithio ar gefn y beic modur, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar y llwybr seiclo o dan y bont ar Heol Newydd, yn Y Ffwrnais, Llanelli am 10yh nos Sadwrn, 21 Mehefin.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu am farwolaeth y dyn.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.